Mae’r Wobr Anthea Bell i Gyfieithwyr Ifanc: Cymru yn gystadleuaeth flynyddol i ddisgyblion 11-18 oed yng Nghymru. Mae’n gangen arbennig o’r Wobr Anthea Bell i Gyfieithwyr Ifanc, sef menter ledled y DU a gaiff ei rhedeg gan y Translation Exchange yng Ngholeg y Frenhines, Prifysgol Rhydychen.

Ysbrydolir y gystadleuaeth gan fywyd a gwaith y cyfieithydd gwych Anthea Bell. Mae’n hyrwyddo dysgu ieithoedd ledled y DU ac yn ysbrydoli creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth. Trwy roi’r adnoddau angenrheidiol i athrawon i ddod â chyfieithu’n fyw, mae’n anelu at ysgogi mwy o ddisgyblion i astudio ieithoedd rhyngwladol drwy gydol eu hamser yn yr ysgol a thu hwnt.

Tasgau’r gystadleuaeth ac adnoddau addysgu

Ar hyn o bryd, cynhelir cangen Gymraeg y gystadleuaeth o’r Ffrangeg i’r Gymraeg. Byddwn yn ehangu’r gangen hon i gynnwys Sbaeneg a’r Almaeneg dros y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd, cynhelir cangen Saesneg y gystadleuaeth mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Mandarin, Rwsieg a Sbaeneg. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar bedair lefel ar gyfer pob iaith; mae’r lefelau hyn yn cwmpasu pob grŵp blwyddyn o Gyfnod Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5.

Mae pob athro sy’n cofrestru ar gyfer y Wobr yn derbyn pecynnau addysgu sy’n cynnwys fideos, cyflwyniadau a thaflenni gwaith ar gyfieithu barddoniaeth, deunydd ffuglen a ffeithiol. Mae adnoddau addysgu ar gyfer disgyblion sy’n astudio Ffrangeg ar ddechrau ac ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar hyn o bryd.

Beirniadu’r gystadleuaeth yng Nghymru

Yng Nghymru, caiff cyfieithiadau o’r Ffrangeg i’r Gymraeg a’r Saesneg eu beirniadu gan yr Athro Angharad Price. Ganed Angharad ym Methel ger Caernarfon, ac astudiodd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle cwblhaodd hefyd DPhil newn Astudiaethau Celtaidd. Ar hyn o bryd mae’n Athro Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n awdures nifer o nofelau a chyfrolau academaidd, ac enillodd ei nofel O, Tyn y Gorchudd (Bywyd Rebecca Jones) Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2003 ac mae wedi ei chyfieithu i sawl iaith. Mae hefyd yn gyfieithydd llenyddol profiadol o’r Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg ac yn gyd-olygydd Translation Studies: Special Issue Wales gyda H. Miguelez-Carballeira a J. Kaufmann. Yn 2014, derbyniodd Angharad Wobr Glyndŵr am gyfraniad arbennig i’r celfyddydau yng Nghymru.

Sut i gofrestru

Gall athrawon gofrestru yma i dderbyn adnoddau ar gyfieithu barddoniaeth, rhyddiaith a deunydd ffeithiol. Pob blwyddyn, rydym yn rhyddhau ein hadnoddau barddoniaeth mewn pryd ar gyfer Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd a Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu ar y 26ain a’r 30ain o Fedi.

Bydd pob athro cofrestredig yng Nghymru hefyd yn cael y cyfle i wneud cais am gyrsiau Dysgu Proffesiynol newydd a chânt eu cyflwyno ar y cyd â’n chwaer sefydliad, the Stephen Spender Trust. Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi ysbrydoliaeth ac offer i athrawon i integreiddio cyfieithu creadigol yn eu gwaith.

Sefydlwyd cangen Gymraeg y gystadleuaeth mewn partneriaeth â GwE. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein cydweithwyr yn GwE ac am eu gwaith yn cyfieithu ein hadnoddau o’r Ffrangeg i’r Gymraeg.

The Anthea Bell Prize for Young Translators: Wales is an annual competition for students aged 11-18 in Wales. It is a special strand of The Anthea Bell Prize for Young Translators, a UK-wide initiative run by the Translation Exchange at The Queen’s College, University of Oxford.

The competition is inspired by the life and work of the great translator Anthea Bell. It promotes language learning across the UK and inspires creativity in the classroom. By providing teachers with the tools they need to bring translation to life, it aims to motivate more pupils to study international languages throughout their time at school and beyond.

Competition tasks and teaching resources

The Welsh strand of the competition currently runs from French into Welsh. We will be expanding the Welsh strand to include Spanish and German in the coming years. The English-language strand of the competition currently runs in French, German, Italian, Mandarin, Russian and Spanish. The competition runs across four levels for each language; these levels cover all year groups from Key Stage 3 to Key Stage 5.

All teachers who register for the Prize receive teaching packs which include videos, presentations and worksheets on translating poetry, fiction and non-fiction. Teaching resources aimed at pupils studying French at the beginning and end of Key Stage 3 are currently available in both Welsh and English. 

Judging the competition in Wales

In Wales, translations from French into Welsh and English are judged by Professor Angharad Price. Born in Bethel near Caernarfon, Angharad studied Modern Languages at Jesus College, Oxford where she also completed a DPhil in Celtic Studies. She is currently Professor in Welsh and Creative Writing at Bangor University. The author of several novels and academic volumes, her novel O, Tyn y Gorchudd (The Life of Rebecca Jones), was Wales Book of the Year in 2003 and has been translated into several languages. She is also an experienced literary translator from German, French, Italian and Spanish and co-edited Translation Studies: Special Issue Wales with H. Miguelez-Carballeira and J. Kaufmann. In 2014, Angharad received the Glyndwr Award for an outstanding contribution to the arts in Wales.

How to register

Teachers can register here to receive resources on translating poetry, prose and non-fiction. Every year, we release our poetry resources in time for European Day of Languages and International Translation Day on 26th and 30th September.

All registered teachers in Wales will also have the opportunity to apply for new Professional Learning courses co-delivered with our sister organisation the Stephen Spender Trust. These courses will provide teachers with inspiration and tools to integrate creative translation into their practice.

The Welsh strand of the competition was established in partnership with GwE. We are grateful for the support of our colleagues at GwE and for their work translating our resources from French into Welsh.